HywelPIERCEPIERCE - HYWEL , . Awst 23ain, 2017. Yn dawel yn ei gwsg yng Nghartref Nyrsio Bodawen, Porthmadog, yn 88 mlwydd oed, o 'Llys Hywel', 3 Surveyor's Place, Porthmadog. Cefnder annwyl a ffyddlon Olwen a Meryl a hoff ewythr plant y teulu. Fe fydd colled enfawr ar ei ol. Diolch am y fraint o'i adnabod. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Salem, Porthmadog ar ddydd Mercher Medi'r 6ed am 1.00 y.p. gan ddilyn yn hollol breifat ym Mynwent Minffordd. Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Hywel tuag at Gyfeillion Ysbyty Alltwen drwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Dublin Street, Tremadog. LL49 9RH - 01766 512091
Keep me informed of updates