SusanKEANYn dawel yn Ysbyty Bronglais Aberystwyth ar ddydd Sul 26ain Ionawr 2020, wedi afiechyd byr ond a ddioddefodd yn ddewr iawn, hunodd Susan, Heol y Garreg, Pontgarreg, Llangrannog yn 67 mlwydd oed, merch annwyl Molly a'r diweddar Alf, chwaer tyner Hilary a Rhian, chwaer yng nghyfraith parchus Elwyn a Dylan, modryb, perthynas a ffrind hoffus i bawb o'i theulu a'i chymuned. Gwasanaeth Angladdol Preifat yn Amlosgfa Aberystwyth dydd Llun 3ydd Chwefror 2020 am 2.00 o'r gloch. Dymuniad Susan oedd i chi wisgo scarff neu dei llachar. Plethdorch y teulu yn unig, derbynnir cyfraniadau er cof os dymunir tuag at Ymchwil Cancr Cymru trwy law Wendy Roberts, Glangraig Fach, Llangrannog, Llandysul, Ceredigion, SA44 6AQ. Ymholiadau pellach i Maldwyn Lewis, Ymgymerwr Angladdau, Penrhiw-pâl Ffôn (01239) 851 005. www.lewisfunerals.co.uk
Keep me informed of updates