GlenysDAVIESYn dawel Ddydd Mawrth, 11eg Mawrth, 2025, yn ei chartref, 9 Maes y Berllan, Llangyndeyrn, (gynt o Fferm Alltycadno), Glenys, priod hoff y diweddar Eirwyn, mam annwyl Anne, Gareth, Orwel, Enfys a'r diweddar Mair, mamgu a hen-famgu gariadus, mam-yng-nghyfraith barchus a ffyddlon. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yn Eglwys Llangyndeyrn, Dydd Sadwrn, 29ain Mawrth 2025, am 12.00 o'r gloch. Dim blodau, ond rhoddion os dymunir tuag at Marie Curie, trwy law Mr. Dorian Harries, ar ran G. Harries a'i Feibion, Cyfarwyddwyr Angladdau, Maesybwlch, Pencader, Sir Gâr. SA39 9BY. Ffôn: 01559 384903/384386
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Glenys