Robert CliffordDAVIESDymuna Ilyd, Einir, Elena, Gethin a'r teulu oll ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad, charedigrwydd a chefnogaeth a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth sydyn o golli gwr, tad a thaid arbennig, brawd a brawd yng nghyfraith annwyl.
Gwir werthfawrogwyd y llu cerdiau, galwadau ffôn, ymweliadau a'r holl gyfraniadau hael tuag at yr adran frys, yr uned gofal cardiaidd ac yr uned gofal dwys Ysbyty Glan Clwyd ac i'r staff yno am eu gofal.
Diolch o waelod calon i'r Parch Owain Davies am ei holl gefnogaeth yn ystod yr wythnosau diwethaf, a'i arwyniad teimladwy yn ystod y gwasanaeth ac i Mair Davies am ei chyfraniad arbennig wrth yr organ, a Mathonwy Ifan am arwain y canu, ac i Gwynfor Davies a'r teulu am ysgrifennu y deyrnged er cof am Cliff.
Diolch i bawb a gyfranodd mewn unrhyw fodd ar ddydd yr angladd, Karen McNeillie am y blodau hardd, Kevin Roberts, Aled Roberts a Tomos Williams am rannu'r taflenni ac i Dyfrig Owen a Emyr Williams am ofalu am y parcio, i Emrys Owen am y system sain ac i Carol Wynne a'i chriw am y lluniaeth blasus.
Gwerthfawrogwyd y trefniadau trylwyr ac urddasol gan gwmni R.W.Roberts a'i Fab ac yn arebnnig i Ifan Edwards a'r holl staff.
Diolch o galon i bawb.
--------------------------------------------------
Ilyd, Einir, Elena, Gethin and all the family wish to express their sincere thanks for every expression of kindness and sympathy extended to them in their sudden bereavement and for all the generous donations in remembrance of Cliff.
A heartfelt thank you to all.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Robert