Y Parchedig Rhys Ab Ogwen B.A., M.Th.JONESDdydd Iau, yr 8fed o Ragfyr 2022, yn dawel, wedi cystudd hir, bu farw'r Parchedig Rhys ab Ogwen Jones yn 84 mlwydd oed. Gweinidog yr Efengyl yn eglwysi Presbyteraidd Eglwysbach, Llansannan, Caer a Rhosllannerchrugog. Gŵr cariadus Gwenfron. Brawd hynaf Alun ac Elen. Brawd-yng-nghyfraith Janet, Aled a'r diweddar Arwel. Ewythr hoff i Hawis. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Mawr, Rhosllannerchrugog, Ddydd Iau, yr 22ain o Ragfyr, 2022 am 11 y bore. Derbynnir rhoddion er cof am Rhys, os dymunir, er budd Ambiwlans Awyr Cymru, ond dim blodau os gwelwch yn dda. Ymholiadau trwy law yr ymgymerwyr, Lucy & Tattum, 37 Heol y Farchnad, Rhosllannerchrugog. Ffon (01978) 846519
Keep me informed of updates