GlenysLANEDymuna Martin, Kevin, Pauline ac Aled ddatgan eu diolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Glenys. Diolch am bob galwad ffôn, cardiau, blodau a rhoddion hael tuag at Ymchwil Canser Cymru a Cronfa Gwaddol Ward Alaw. Dymunant ddiolch i'r Parchedig Gwenda Richards am wasanaeth teimladwy a chynnes a hefyd diolch arbennig i Olga Thomas am ei theyrnged twymgalon. Diolch hefyd Gwilym Jones a'i Fab, Trefnwyr Angladdau am y trefniadau trylwyr ac hefyd i Meifod Bontnewydd am y te angladd.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Glenys