AwenCRAYDymuna Martin, Jonathan, Iwan, Nia a'r holl deulu, ddatgan eu diolch diffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniwyd wedi colli ein hannwyl Awen. Gwerthfawrogwyd yr holl weddiau, llythyron, cardiau a galwadau ffôn wnaeth ein cynorthwyo i wynebu cyfnod anodd iawn. Diolch hefyd am yr haelioni a ddangoswyd tuag at waith y Beibl Gymdeithas. Mae ein dyled yn fawr i'r Parchedig Aled Maskell am ei ddidwylledd, ei arweiniad graenus o'r gwasanaethau, ac i Eglwys Calfaria Penygroes, lle roedd Awen yn aelod ffyddlon. Diolch hefyd i staff Ysbyty Glangwili ac i deulu Griffiths Bwtrimawr, y Trefnwyr Angladdau, am eu sensitifrwydd a'u proffesiynoldeb, ynghyd â Dr Gillian Ellis-Williams, Meddygfa Penygroes am ei chefnogaeth. "Yn wir, rwy'n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys"
Keep me informed of updates