HelenHUGHES8 Tachwedd 2022. Yn dawel yn ei chartref, Wenallt, Carmel, Caernarfon, yn 71 mlwydd oed. Gwraig annwyl Gareth, mam arbennig a ffrind i Eleri a'i phriod Aled, a nain dyner a balch Owi. Chwaer Alwen a'i phriod Gwyn, merch y diweddar Hugh a Jane Williams, merch-yng-nghyfraith Owi a'r ddiweddar Mona a modryb hoff Colin a Suzanne, Sharen a Dai, ac Angharad ac Eirian. Angladd brynhawn Iau, 17 Tachwedd, 2022. Gwasanaeth yn y cartref i'r teulu, ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Pisgah, Carmel am oddeutu 1.30 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar i'r Nyrsys Cymunedol Lleol a fu'n gymaint o gymorth i Helen a'r teulu. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes, LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates