EllenHUGHESDymuna Tomos, Gwyn, Dewi, Annwen a'r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdemlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli gwraig, mam, nain, hen-nain, mam-yng-nghyfraith a chwaer annwyl iawn, sef Ellen Hughes (Nellie) Gorseddfa, Saron. Diolch yn arbennig i genod Gofal Bro, Nyrsys Cymunedol a Doctoriaid Hafan Iechyd am eu gofal. Diolch hefyd i'r Parchedig Gwenda Richards am y gwasanaeth urddasol ac i'r organydd Dr Tristian Evans, i Iolo a'i staff yn Roberts ac Owen am y trefniadau parchus ac i Enid a'r genod yn y Clwb Golff am y lluniaeth ardderchog. Yn olaf diolch am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Nellie tuag at Antur Waunfawr.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Ellen