Meiriona (Mona)EVANSEVANS - MEIRIONA (MONA), . 7fed o Ionawr 2020. Yn dawel yng nhwmni ei theulu yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth yn 83 mlwydd oed o Parlla Isaf, Rhoslefain. Priod ffyddlon y diweddar Ieuan Bryn, mam dyner Annona ac Ieu, Eleri ac Arthur, Clarys ac Andy a Gareth Bryn; nain a hen nain balch a chariadus i'w holl wyrion a wyresau a gorwyrion a gorwyresau; chwaer Robin a'r diweddar Tecwyn. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Bethel Newydd, Tywyn LL36 9HA dydd Llun Ionawr 20fed 2020 am 12.00 hanner dydd ac yna rhoddir i orffwys ym Mynwent Tywyn. Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir cyfraniadau er cof, os dymunir, tuag at Mencap trwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf., Heol Dulyn, Tremadog. Ffon 01766 512091
Keep me informed of updates
Add a tribute for Meiriona