EllenHUGHES22 Chwefror, 2023. Bu farw yn annisgwyl yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o Gorseddfa, Saron, Llanwnda yn 94 mlwydd oed. Gwraig ffyddlon Tomos, a mam a mam-yng-nghyfraith gariadus Gwyn, Dewi, Annwen a Morris. Nain a hen-nain amhrisiadwy Lee, Emma a Neli-Ann, merch annwyl y diweddar John a Laura Jane Jones, 38 Cefn Hendre, Caernarfon a chwaer arbennig Richie, Catherine a'r diweddar Arthur, Mair, Will, Now, Norman a Betty. Hefyd ffrind triw i'w chymdogion a'i ffrindiau oll. Angladd fore Mawrth, 7 Mawrth, 2023. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Glanrhyd, Dinas am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Cefnfaes, Rhos Isaf. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Nellie tuag at Antur Waunfawr. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates