Owen ArwynJONES25 Rhagfyr, 2021. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o Saron, Caernarfon (gynt o Fferm Hendre Nantcyll, Pantglas) yn 80 mlwydd oed. Mab y diweddar Griffith a Mary, a gŵr annwyl a meddylgar Margaret; tad balch a charedig Emlyn a'i wraig Iona, Aled a'i bartner Rachel, a thaid hoffus a hwyliog Non, Tesni ac Enlli. Brawd hoffus ac unigryw Hefin, ei efaill Eirlys, Rhian a'r diweddar Edwin, a brawd-yng-nghyfraith Nesta, Robin, Rheon, Heulwen, Richard a Margaret, a'r diweddar John a Gill. Angladd brynhawn Llun, 10 Ionawr, 2022. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Libanus, Pantglas am 1.00 o'r gloch, yn unol â'r rheolau Covid perthnasol, gan ddilyn yn breifat ar lan y bedd ym Mynwent Tai Duon. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates