Elfyn ParryWILLIAMSRhianfa, Parc, Llandyfrydog, Ynys Môn. Dymuna'r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Elfyn mor sydyn ac am y rhoddion hael a gasglwyd er cof amdano, tuag at Capel Parc, Llandyfrydog a oedd yn agos at galon teulu Rhianfa a Tŷ Croes. Diolch i'r Parchedig Dyfed Wyn Roberts am ei wasanaeth ddydd yr angladd ac i Mrs Eirian Rowlands yr organyddes. Diolch arbennig i'r ymgymerwyr, Arwyn a Fiona Hughes, Marian-glas am eu trefniadau gofalus a pharchus.
Keep me informed of updates