Gwyn IvorEVANSPenrhiwceibr 1920 - 2015 Hunodd yn dawel yn Ysbyty Cwm Cynon ar ddydd Iau Tachwedd 5 yn 95 mlwydd oed, roedd yn Ddiacon ac Ysgrifennyd parchus a gweithgar yng Nghapel Carmel, Penrhiwceibr; gwr ffyddlon a ffrind gorau Tegwen Eluned, tad annwyl Dwynwen a Meirion a thad yng nghyfraith Robin a Karen, dadcu hoffus Carys, Simon, Gareth, Carys, Daniel, Josh a Dylan, a hen dadcu Dylan a Gethin. Gwasanaeth cyhoeddus dydd Mawrth Tachwedd 17 yng Nghapel Carmel, Penrhiwceibr am 11.45yb ac i ddilyn yn Amlosgfa Llwydcoed, Aberdar am 1.30yp. Blodau teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ymchwil Cancer a Capel Carmel trwy law yr Ymgymerwyr T Teify Davies, Cyfarwyddwyr Angladdau, 211 Penrhiwceiber Rd, Miskin, Mountain Ash. CF45 3UN. Estynnir gwahoddiad cynnes i bawb ymuno a'r teulu ar ol yr angladd am luniaeth yng Nghlwb y Bowls Aberpennar am 2.15yp. Cariad byth ni ddarfod. 'Llaw yr Iesu sy'n gwahanu Rhwng rhai annwyl ar y llawr; Llaw yr Iesu ddaw a'r teulu At eu gilydd gyda'r wawr'.
Keep me informed of updates