MairJONES.Yn sydyn yn ei chartref, Bronrhiw, 25 Bro Cymer, Llanelltyd, yn 87 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Elfyn, mam hoff Eleri, Rhys a'r diweddar Ceinwen, mam-yng-nghyfraith Geraint, Helen a Trebor, nain gariadus Llion, Elain, Sioned, Iwan, Lewis a Mared, hen nain falch Ffion, Guto, Lowri a Gruffydd. Gwasanaeth yng Nghapel Salem, Dolgellau, dydd Mercher 27ain o Dachwedd am 11 o'r gloch. I ddilyn ym Mynwent Llanelltyd, i'r teulu yn unig. Dim blodau. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Tŷ Gobaith ac Ambiwlans Awyr Cymru trwy law Mr. Terry Lloyd, Pil-yr-Hengwrt, Llanelltyd, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2SS. Ymholiadau i Glyn Rees a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, 5 Rhes Eldon, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1PY. Ffôn: 01341 422 322 neu Dinas Mawddwy 01650 531 240.
Keep me informed of updates