RichardROBERTSMedi 28ain 2026. Bu farw, Richard Frondeg Uchaf, Llangaffo, yn dawel yng Nghartref Gofal Plas Mona, Llanfairpwll, lle cafodd bob gofal a chysur. Priod annwyl Beti, tad balch Merfyn, Alwyn a Howyn, taid hoff i Arwyn, Ceri, Dion, Tyler a Lauryn, a 'taid hen' annwyl i Osian Elis, Deio Rhys ac Emmie Ann.
Rhoddir i orffwys yn breifat ym Mynwent Llanfair-yn-y-Cwmwd gyda gwasanaeth coffa cyhoeddus yn Eglwys Sant Caffo, Llangaffo dydd Mercher Hydref 28ain am 12.00 o'r gloch.
Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion os y dymunir, yn ddiolchgar tuag at Gartref Gofal Plas Mona Llanfairpwll (Sieciau yn daladwy i Mrs M. Williams a Mrs G. Roberts Cyfrif Rhoddion) drwy law Gwenan Roberts o W. O. a M. Williams, Rose & Thistle, Llanedwen, LL61 6PX. Ffôn 01248 430312.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Richard