BuddugJONESAr fore dydd Iau, 16 Ebrill, hunodd Buddug yn dawel yng nghwmni ei theulu, yn Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. Gwraig annwyl Alun, mam arbennig i Gethin a Lowri, mam yng nghyfraith garedig i Ceri ac Iestyn, nain gariadus i Dafydd, Mari, Hari, Owain a Sara, chwaer ffyddlon i Brenda a'r diweddar Wyn, a chyfaill triw i lawer.
Bydd yr hebryniad angladdol yn gadael Llangaffo ar ddydd Mercher, 29ain o Ebrill am 10:15 a bydd y gwasanaeth i ddathlu ei bywyd yn Amlosgfa Bangor am 11:00 y bore. Croeso cynnes i bawb fynychu a bydd modd ymuno ar lein pe baech methu bod yn bresennol (https://watch.obitus.com) Username: qayo4703 Password: 893326.
Blodau gan y teulu yn unig a derbynnir rhoddion, os dymunir, tuag at Ymchwil Canser Cymru (Sieciau yn daladwy i Mrs M. Williams a Mrs G. Roberts Cyfrif Rhoddion) drwy law Gwenan Roberts o W. O. a M. Williams, Rose & Thistle, Llanedwen, LL61 6PX. Ffôn 01248 430312.
Keep me informed of updates