EllaEVANSEVANS - ELLA HUGHES. Gorffennaf 23ain. Yn dawel yng ngofal tyner Staff Cysgod y Gaer, ac o Bryn Tirion, Gwyddelwern, yn 88 mlwydd oed. Priod gofalgar y diweddar John Hugh Evans, chwaer i Mary, Cledwyn a'r diweddar Pryce a Meirion, ac "Anti Ella" i lawer. Gwasanaeth i'r teulu'n unig ym mynwent Capel Derwen am 1.00 o'r gloch, dydd Iau, Gorffennaf 30ain, gyda gwasanaeth cyhoeddus o ddiolchgarwch i ddilyn yng Nghapel Wesle, Gwyddelwern am 2.00 o'r gloch. Blodau gan y teulu'n unig, ond os dymunir derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at gartref Cysgod y Gaer, Corwen. Ymholiadau i C. Austin, Trefnwr Angladdau, Corwen. Ffon. 01490 412357.
Keep me informed of updates